P-03-317 Cyllid ar gyfer y celfyddydau Hijinx

Geiriad y ddeiseb

Yn dilyn y toriadau anghymesur yn arian refeniw Theatr Hijinx, rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i sicrhau bod digon o arian ar gael er mwyn gwneud yn siŵr nad yw gwaith arloesol a theilwng Theatr Hijinx mewn perygl. Mae’r cwmni unigryw hwn o Gymru wedi treulio 30 mlynedd yn datblygu cyfleoedd i bobl sydd ag anawsterau dysgu i gael eu cynnwys ar bob lefel a bydd y toriadau hyn yn golygu gostyngiad sylweddol yn y ddarpariaeth bresennol.

 

Linc i’r ddeiseb: http://www.cynulliadcymru.org/gethome/e-petitions-old/admissible-pet/p-03-317.htm

Cynigwyd gan: Mike Clark

Nifer y llofnodion: 1,893

 

Y wybodaeth ddiweddaraf: Cafwyd gohebiaeth gan Gyngor Celfyddydau Cymru a chan y deisebwyr.